SlideShare ist ein Scribd-Unternehmen logo
1 von 38
Cyfieithu Cymru
Uned Technolegau Iaith
Canolfan Bedwyr
Datblygwyd gan David Chan, Dewi Bryn Jones a Delyth Prys o
gomisiwn gwreiddiol gan Uned Gyfieithu Prifysgol Bangor
dan arweiniad y Dr Sylvia Prys Jones
CyfieithuCymru/TranslateWales
Nodweddion Unigryw
1. System gyfun ar gyfer rheoli llif gwaith cyfieithu rhwng
cwsmeriaid, gweinyddwr a chyfieithwyr
2. Cyfleustra i deipio darn byr i’w gyfieithu’n sydyn yn y
rhyngwyneb heb orfod mynd trwy’r holl gamau prosesu
3. Amgylchedd cyfieithu cyflawn i gyfieithwyr
• cof cyfieithu (dewis o gofion gwahanol)
• brasgyfieithu peirianyddol
• geirfaoedd personol/corfforaethol
• Cysill yn integredig wrth i chi deipio
4. Yn gweithio dros y we “yn y cwmwl”
• Mae'r diwydiant cyfieithu yn sector sylweddol a chymharol newydd
yn economi Cymru.
• Mae’r diwydiant yn cynnal ac yn cefnogi gwasanaethau sy'n cael eu
darparu'n ddwyieithog yng Nghymru, ac yn cynorthwyo sectorau
eraill o economi Cymru i allforio eu nwyddau a’u gwasanaethau yn y
farchnad fyd-eang.
• Yr unig system sy’n benodol i’r Gymraeg ac i’r farchnad Gymraeg yw
CyfieithuCymru. Prif amcan CyfieithuCymru felly yw, ateb gofynion y
Cymry Cymraeg, a chyfieithwyr sy’n gweithio’n bennaf gyda’r
Gymraeg a’r Saesneg fel parau iaith.
Cefndir
• Ers iddi gael ei sefydlu yn 1993, mae gweithgareddau'r Uned
Technolegau Iaith wedi dod â hi i gysylltiad â'r defnydd o
dechnolegau iaith yn y diwydiant cyfieithu yng Nghymru a ledled y
byd.
• Mae rhai o aelodau’r uned hefyd yn aelodau o'r cyrff rhyngwladol
y mae'r diwydiant yn eu cydnabod fel rhai sy'n gyfrifol am safoni
yn y farchnad gyfieithu fyd-eang.
Arbenigedd yr Uned Technolegau Iaith
• Mae'r uned hefyd yn gweithio gyda'r sector breifat i ddatblygu offer
iaith a chyfieithu er mwyn gwella eu gallu i gystadlu'n economaidd.
• Mae wedi defnyddio'r Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) fel
mecanwaith i helpu diwydiant. Mae'r rhaglen KTP wedi galluogi
cwmnïau cyfieithu preifat yng Nghymru i ddatblygu offer i ateb eu
hanghenion technolegol eu hun.
• Galluogodd y KTP cyntaf o'r fath, gyda cwmni cyfieithu lleol, sydd â'i
bencadlys yng Nghaernarfon, y cwmni i gyflwyno rheolaeth termau
ac amgylchedd technoleg cyfieithu wedi'u llunio'n unswydd, i'w
amgylchedd ei hun, sydd yn fantais amhrisiadwy.
• Mae’r Uned yn deall anghenion y sector cyfieithu yng Nghymru, a
mae llawer iawn o ymchwil ac o o waith asesu wedi ei gynnal gan yr
uned.
Llwyddiant yr Uned Technolegau Iaith
Manteision y system gyfieithu
• Un o brif fanteision system o’r fath yw’r arbedion
amser. Mae gwahanol amcangyfrifon wedi'u rhoi ar yr
arbedion amser a geir drwy'r defnydd o dechnoleg
cyfieithu.
• Mewn gwirionedd mae'r arbedion yn dibynnu ar y
dechnoleg a ddefnyddir a'r math o ddogfennau a
gyfieithir.
• Ystyrir bod cyfartaledd arbediad o 40% mewn amser a
chost yn rhesymol yn y diwydiant ar brojectau
cyfieithu ailadroddus, os defnyddir yr offer a'r
adnoddau cyfieithu technegol perthnasol.
• Cynyddu’r gallu i gyfieithu o 40%, ac arbed
20% mewn amser gweinyddol, heb unrhyw
gynnydd mewn lefelau staffio, drwy
ddefnyddio technoleg cyfieithu priodol, megis
CyfieithuCymru.
Mantais 2
Mae Gwell Offer Technoleg Cyfieithu ar gyfer y Diwydiant Cyfieithu yn
golygu datblygu a darparu adnoddau megis:
• terminoleg gymwys,
• geiriaduron,
• gwirwyr sillafu a gramadeg,
• systemau ac ychwanegion cof cyfieithu,
• meddalwedd cyfieithu gyda chymorth cyfrifiadur,
• systemau rheoli llif gwaith a'r holl gymhorthion cyfieithu technolegol
newydd.
Dyma yn union mae CyfieithuCymru yn ei gwmpasu, ac yn ei sicrhau i’r
cwsmeriaid. Mae’n arf gwerthfawr, sy’n cynnwys mwy nag un nodwedd
unigryw.
Mantais 3
Mantais 4
• Mae rhannu cofion a gwaith gyda chyd-gyfieithwyr
yn un o nodweddion unigryw systemau cof cyfieithu.
• Drwy rannu cofion, mae’n arbed gorfod ail gyfeithu
ymadroddion sydd eisioes wedi eu cyfieithu gan
gyfieithwyr.
• Mae’n bosibl i gyfeithwyr weithio o adref neu
o bell, gan mai’r cyfan sydd arnynt ei angen yw
cysylltiad â’r we.
• Dim angen llwytho neu osod unrhyw
feddalwedd neu raglen er mwyn gallu ei
ddefnyddio. O ganlyniad mae pawb yn gallu
defnyddio’r system a hynny ar y we.
• Diolch i’r system o’r fath bydd gwaith a
thargedau yn parhau i’w cael eu cyrraedd.
Mantais 5
Mae tri math gwahanol o ddefnyddiwr yn defnyddio’r system hon gyda’i gilydd.
Cwsmer
Mae CWSMERIAID yn defnyddio’r system i yrru gwaith at y cyfieithwyr i gael ei gyfieithu
neu ei olygu ac i dderbyn y gwaith yn ôl wedi’i gwblhau.
Gweinyddwr
Mae GWEINYDDWYR yn defnyddio’r system i reoli’r llif gwaith. Nhw sy’n derbyn y cais i
wneud darn o gyfieithu neu olygu ac yn ei ddosbarthu i wahanol gyfieithwyr. Maent
hefyd yn medru cyfieithu darnau byrion eu hunain yn y fan a’r lle a’u dychwelyd yn
uniongyrchol at y cwsmer.
Cyfieithydd
Gwneud un o ddau beth
• Tynnu dogfennau’r project dan sylw o’r system er mwyn eu cyfieithu â llaw
neu gyda system amgylchedd cyfieithu gwahanol, gan lwytho’r cyfieithiadau gorffenedig
yn ôl i’r system i’w dychwelyd at y cwsmer.
• Agor dogfennau’r project o fewn y system a defnyddio’r cyfleusterau cof
cyfieithu sydd yn y system (Cyfieithyn) gyfieithu’r dogfennau. Unwaith eto, bydd yn
defnyddio’r system i ddychwelyd y dogfennau at y cwsmer ar ôl cwblhau’r gwaith
cyfieithu.
Llwyfan cyffredin i gwsmeriaid,
gweinyddwyr a chyfieithwyr
Cwsmer yn llwytho’r gwaith i’r system
Dewis cyfieithu dogfennau neu ddarnau byr
Dewis y math o waith
• Mae CyfieithuCymru yn galluogi defnyddwyr i reoli llif gwaith yn effeithiol, gyda ‘r
gweinyddwr yn bennaf gyfrifol am ddosbarthu a dyrannu gwaith.
• Yn ychwanegol i hyn er mwyn cynorthwyo’r sefydliad i wybod faint o waith cyfieithu sy’n
mynd drwy’r system mewn cyfnod penodol, ac o dan pa bennawd a chategori, mae
dewislenni yno i fireinio’r adrodd am y gwahanol fathau o gyfieithu.
• Mae’n bosibl felly cael ystadegau pendant ar y math o gyfieithu a nifer o gyfieithiadau y
mae sefydliad yn ymgymryd â hwy.
System rheoli llif gwaith: Gweinyddwr yn dosbarthu gwaith a
gweld statws projectau unigol
Lliwiau yn dynodi statws y ddogfen
Gwyn- Derbyniwyd
Melyn-Dangos bod y gweinyddwr wedi derbyn y gwaith
Gwyrdd- Gwaith wedi ei gwblhau
Llwyd-Caewyd
Cyfieithydd yn dewis cofion a geirfa
Dogfen yn barod i’w chyfieithu
Un nodwedd manteisiol arall i’r cyfieithwyr yw bod fersiwn o Cysill a ddatblygwyd
gan yr Uned Technolegau Iaith yn gweithio’n awtomatig o fewn y system cof
cyfieithu, sy’n hynod o ddefnyddiol os mai Cymraeg yw’r iaith darged.
Mae’n dangos gwallau teipio neu wallau gramadeg yn ystod y broses sydd heb os
yn arbed amser prawfddarllen y cyfeithydd ac yn fodd o gynnal safonau y sefydliad.
Gwelir fod gwall teipio ‘cwricwlwm’ isod, a bod y gwall yn cael ei amlygu.
Gwirio sillafu a gramadeg o fewn y system
Creu a gweld Rhagolwg
Drwy bwyso’r
botwm ‘Gweld’
mae’n bosibl
gweld ffurf y
ddogfen a
hynny yn ei
gyfanrwydd.
• Mae’n bosibl cael mwy nag un cof yn y system.
• Yn ogystal a hyn, mae bosibl dewis os ydych yn dymuno darllen o’r
cof neu ysgrifennu’n unig, neu gwneud y ddau. Cofier yn ogystal bod
modd i chi ddefnyddio mwy nag un cof, os y bydd cyfieithydd yn
teimlo bod mwy nag un cof yn berthnasol i bwnc neu faes y ddogfen
sydd angen ei chyfieithu, bydd hyn o fewn rheswm yn help i gael
gwell canlyniadau.
Amglychedd cyfieithu gyda chofion cyfeithu
Enghreifftiau’n unig yw’r rhestr o gofion cyfieithu isod, ac
mewn gwirionedd bydd pob corff neu sefydliad yn llunio ei gof
cyfieithu ei hun.
Cofion cyfieithu
Enghraifft o
ddau gof
• Mae CyfieithuCymru yn cynnig cyfieithiad peiranyddol pur ar waelod y
rhestr o gynigion cyfieithu.
• Yna os nad oes cynigion yn ymddangos o’r cofion cyfieithu, o leiaf bydd
cyfieithiad peirianyddol yn fan cychwyn i’r cyfieithydd wneud gwaith
pellach er mwyn cael cyfieithiad boddhaol.
• Bydd modd hefyd cael prif eirfa y frawddeg ynghyd a thermau allweddol yn
y modd hwn.
Cyfieithu Peirianyddol
• Nodwedd arall hynod o ddefnyddiol yw’r Gerifaon.
• Mae’r geirfaon yn cael eu cynhyrchu gan y sefydliad ei hun.
Diben geirfaon yw darparu geirfa fewnol sy’n allweddol i’r
sefydliad neu i’r corff, yn enwedig lle bo angen rhannu
geiriau allweddol rhwng fwy nag un cyfieithydd. Mae’n fodd
o sicrhau cysondeb sy’n angenrheidiol pan bydd mwy nag
un cyfieithydd yn gweithio ar un dogfen hir.
• Mae hefyd yn ddefnyddiol i arbed gorfod teipio
ymadroddion hir sy’n gallu bod yn llafurus e.e. teitlau
cyrsiau neu sefydliadau, gan fod modd clicio ar gofnod a’i
ollwng yn syth i mewn i’r cyfieithiad. Gellid hefyd gael mwy
nag un geirfa at wahanol ddibenion o fewn sefydliad.
Geirfaon
• Mae CyfieithuCymru yn galluogi chi i ddewis prun ai ydych chi’n dymuno
cyfieithu o fewn y system cof cyfieithu (Cyfieithyn), neu ei dynnu allan
i’w gyfieithu y tu allan i’r system.
• Os nad yw’r cyfieithydd yn mynd i ddefnyddio’r system cof cyfieithu i
wneud y gwaith, gall ddewis y gwaith i’w gyfieithu, ac yna glicio ar
‘Lawrlwytho’ i dynnu’r ddogfen/dogfennau allan i’w cyfieithu â llaw.
• Mae hyblygrwydd y system felly yn un o’i chryfderau, ac nid ydych yn
cael eich caethiwo i gyfieithu o fewn y system fel yn achos rhai systemau
cyfieithu.
Unwaith y bydd y cyfieithydd yn cychwyn ar y broses gyfieithu ei hun, mae nifer o
fotymau y mae modd clicio arnynt i hwyluso gweithredoedd gwahanol:
Nesaf: Drwy bwyso ar y botwm yma byddwch yn symud i’r segment nesaf.
Nodweddion defnyddiol yn ystod y broses gyfieithu
Awtogyfieithu- defnyddir y botwm yma er mwyn i’r system roi
cyfieithiad yn y blwch heb i’r cyfieithydd orfod gwneud hyn os yw’r
cyfieithiad yn y cof yn cyfateb yn hollol i’r gwreiddiol.
Blaenorol- Defnyddir y botwm yma i symud yn ôl at y segment
cynt os yw’r cyfieithydd eisiau gweld neu newid rhywbeth yn
hwnnw eto.
Adfer- Defnyddir y botwm yma i newid rhywbeth yn
ôl i’r hyn ydoedd cyn y weithred olaf i gael ei gwneud.
Cau- Defnyddir y botwm yma er mwyn cau’r
ddogfen a chadw drafft ohono.
Copïo’r Gwreiddiol- Defnyddir y botwm yma i gopïo yr hyn oedd
yn y gwreiddiol yn y blwch cyfieithiad. Mae’r nodwedd hon yn
ddefnyddiol i arbed aildeipio os mai rhestr o enwau pobl neu
destun arall nad oes angen ei gyfieithu sydd yn y segment
gwreiddiol.
Ychwanegu i’r Eirfa- Defnyddir y botwm yma er mwyn rhoi
geiriau newydd yn yr Eirfa lle rhoddwyd tic wrth ochr y
nodwedd ‘Ysgrifennu’ yn Gosodiadau’r Project.
Uno â’r segment nesaf- Defnyddir y botwm yma er
mwyn i’r cyfieithydd fedru uno dau segment lle mae’n
barnu fod y darn fel yr holltwyd ef yn fyr i wneud uned
ystyrlon i’w chyfieithu.
Daduno- Defnyddir y botwm yma er mwyn i’r
cyfieithydd fedru hollti segment yn ddau lle
mae’n barnu fod y segment yn rhy hir neu
wedi’i gamrannu.
Mae CyfieithuCymru yn galluogi’r cyfieithwyr i yrru’r gwaith yn uniongyrchol at y cwsmer, drwy
glicio’r botwm “Anfon at y cwsmer”.
Ond os bydd y cyfieithydd yn dymuno gweld y cyfieithiad yn ei gyfanrwydd cyn gyrru’r gwaith yn ôl,
mae’n bosibl clicio ar y botwm ‘Creu’ er mwyn gwneud hynny. Bydd hyn yn hynod o ddefnyddiol pan
bydd fformatio cymhleth, er mwyn sicrhau bod y fformatio yn adlewyrchu’r fformatio gwreiddiol.
Mae’r system yn sicrhau nad yw’n bosibl gyrru’r ffeil anghywir yn ddamweiniol, sy’n gallu bod yn
broblemus mewn rhai sefydliadau.
Mae’r camau y soniwyd amdanynt yn arbed gwaith i’r Gweinyddwr, gan fod y cyfieithydd ei hun yn
gallu gyrru’r gwaith yn uniongyrchol at y cwsmer.
Wedi gorffen y cyfieithiad?
System bersonol a pherthnasol
• Mae’n bosibl cael cyfeiriad gwe personol ar gyfer eich
system, sydd yn fantais aruthrol i sefydliadau.
• Mae’n bosibl hefyd gwneud y system yn fwy penodol i
chi fel sefydliad, drwy roi eich logo ar frig y system, sy’n
fodd o brandio’r system.
Cefnogaeth technegol a
thrwyddedu
• Mae’r system yn cael ei thrwyddedu yn ôl
nifer cyfieithwyr a gweinyddwyr, a hynny
fesul blwyddyn.
• Mae hyn yn darparu a chynnwys
cefnogaeth technolegol sylfaenol.
• Nid oes pris trwyddedu sydd yn cael ei
sylfaenu yn ôl niferoedd y cwsmeriaid.
Eisiau rhagor o wybodaeth?
Cysylltwch ag Uned
Technolegau Iaith Canolfan
Bedwyr ar
techiaith@bangor.ac.uk.

Weitere ähnliche Inhalte

Empfohlen

2024 State of Marketing Report – by Hubspot
2024 State of Marketing Report – by Hubspot2024 State of Marketing Report – by Hubspot
2024 State of Marketing Report – by HubspotMarius Sescu
 
Everything You Need To Know About ChatGPT
Everything You Need To Know About ChatGPTEverything You Need To Know About ChatGPT
Everything You Need To Know About ChatGPTExpeed Software
 
Product Design Trends in 2024 | Teenage Engineerings
Product Design Trends in 2024 | Teenage EngineeringsProduct Design Trends in 2024 | Teenage Engineerings
Product Design Trends in 2024 | Teenage EngineeringsPixeldarts
 
How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental Health
How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental HealthHow Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental Health
How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental HealthThinkNow
 
AI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdf
AI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdfAI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdf
AI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdfmarketingartwork
 
PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024
PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024
PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024Neil Kimberley
 
Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)
Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)
Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)contently
 
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024How to Prepare For a Successful Job Search for 2024
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024Albert Qian
 
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie InsightsSocial Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie InsightsKurio // The Social Media Age(ncy)
 
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024Search Engine Journal
 
5 Public speaking tips from TED - Visualized summary
5 Public speaking tips from TED - Visualized summary5 Public speaking tips from TED - Visualized summary
5 Public speaking tips from TED - Visualized summarySpeakerHub
 
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd Clark Boyd
 
Getting into the tech field. what next
Getting into the tech field. what next Getting into the tech field. what next
Getting into the tech field. what next Tessa Mero
 
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search Intent
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search IntentGoogle's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search Intent
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search IntentLily Ray
 
Time Management & Productivity - Best Practices
Time Management & Productivity -  Best PracticesTime Management & Productivity -  Best Practices
Time Management & Productivity - Best PracticesVit Horky
 
The six step guide to practical project management
The six step guide to practical project managementThe six step guide to practical project management
The six step guide to practical project managementMindGenius
 
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...RachelPearson36
 

Empfohlen (20)

2024 State of Marketing Report – by Hubspot
2024 State of Marketing Report – by Hubspot2024 State of Marketing Report – by Hubspot
2024 State of Marketing Report – by Hubspot
 
Everything You Need To Know About ChatGPT
Everything You Need To Know About ChatGPTEverything You Need To Know About ChatGPT
Everything You Need To Know About ChatGPT
 
Product Design Trends in 2024 | Teenage Engineerings
Product Design Trends in 2024 | Teenage EngineeringsProduct Design Trends in 2024 | Teenage Engineerings
Product Design Trends in 2024 | Teenage Engineerings
 
How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental Health
How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental HealthHow Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental Health
How Race, Age and Gender Shape Attitudes Towards Mental Health
 
AI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdf
AI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdfAI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdf
AI Trends in Creative Operations 2024 by Artwork Flow.pdf
 
Skeleton Culture Code
Skeleton Culture CodeSkeleton Culture Code
Skeleton Culture Code
 
PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024
PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024
PEPSICO Presentation to CAGNY Conference Feb 2024
 
Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)
Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)
Content Methodology: A Best Practices Report (Webinar)
 
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024How to Prepare For a Successful Job Search for 2024
How to Prepare For a Successful Job Search for 2024
 
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie InsightsSocial Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
Social Media Marketing Trends 2024 // The Global Indie Insights
 
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024
Trends In Paid Search: Navigating The Digital Landscape In 2024
 
5 Public speaking tips from TED - Visualized summary
5 Public speaking tips from TED - Visualized summary5 Public speaking tips from TED - Visualized summary
5 Public speaking tips from TED - Visualized summary
 
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd
ChatGPT and the Future of Work - Clark Boyd
 
Getting into the tech field. what next
Getting into the tech field. what next Getting into the tech field. what next
Getting into the tech field. what next
 
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search Intent
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search IntentGoogle's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search Intent
Google's Just Not That Into You: Understanding Core Updates & Search Intent
 
How to have difficult conversations
How to have difficult conversations How to have difficult conversations
How to have difficult conversations
 
Introduction to Data Science
Introduction to Data ScienceIntroduction to Data Science
Introduction to Data Science
 
Time Management & Productivity - Best Practices
Time Management & Productivity -  Best PracticesTime Management & Productivity -  Best Practices
Time Management & Productivity - Best Practices
 
The six step guide to practical project management
The six step guide to practical project managementThe six step guide to practical project management
The six step guide to practical project management
 
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
 

Cyfieithu Cymru

  • 1. Cyfieithu Cymru Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr Datblygwyd gan David Chan, Dewi Bryn Jones a Delyth Prys o gomisiwn gwreiddiol gan Uned Gyfieithu Prifysgol Bangor dan arweiniad y Dr Sylvia Prys Jones
  • 2. CyfieithuCymru/TranslateWales Nodweddion Unigryw 1. System gyfun ar gyfer rheoli llif gwaith cyfieithu rhwng cwsmeriaid, gweinyddwr a chyfieithwyr 2. Cyfleustra i deipio darn byr i’w gyfieithu’n sydyn yn y rhyngwyneb heb orfod mynd trwy’r holl gamau prosesu 3. Amgylchedd cyfieithu cyflawn i gyfieithwyr • cof cyfieithu (dewis o gofion gwahanol) • brasgyfieithu peirianyddol • geirfaoedd personol/corfforaethol • Cysill yn integredig wrth i chi deipio 4. Yn gweithio dros y we “yn y cwmwl”
  • 3. • Mae'r diwydiant cyfieithu yn sector sylweddol a chymharol newydd yn economi Cymru. • Mae’r diwydiant yn cynnal ac yn cefnogi gwasanaethau sy'n cael eu darparu'n ddwyieithog yng Nghymru, ac yn cynorthwyo sectorau eraill o economi Cymru i allforio eu nwyddau a’u gwasanaethau yn y farchnad fyd-eang. • Yr unig system sy’n benodol i’r Gymraeg ac i’r farchnad Gymraeg yw CyfieithuCymru. Prif amcan CyfieithuCymru felly yw, ateb gofynion y Cymry Cymraeg, a chyfieithwyr sy’n gweithio’n bennaf gyda’r Gymraeg a’r Saesneg fel parau iaith. Cefndir
  • 4. • Ers iddi gael ei sefydlu yn 1993, mae gweithgareddau'r Uned Technolegau Iaith wedi dod â hi i gysylltiad â'r defnydd o dechnolegau iaith yn y diwydiant cyfieithu yng Nghymru a ledled y byd. • Mae rhai o aelodau’r uned hefyd yn aelodau o'r cyrff rhyngwladol y mae'r diwydiant yn eu cydnabod fel rhai sy'n gyfrifol am safoni yn y farchnad gyfieithu fyd-eang. Arbenigedd yr Uned Technolegau Iaith
  • 5. • Mae'r uned hefyd yn gweithio gyda'r sector breifat i ddatblygu offer iaith a chyfieithu er mwyn gwella eu gallu i gystadlu'n economaidd. • Mae wedi defnyddio'r Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) fel mecanwaith i helpu diwydiant. Mae'r rhaglen KTP wedi galluogi cwmnïau cyfieithu preifat yng Nghymru i ddatblygu offer i ateb eu hanghenion technolegol eu hun. • Galluogodd y KTP cyntaf o'r fath, gyda cwmni cyfieithu lleol, sydd â'i bencadlys yng Nghaernarfon, y cwmni i gyflwyno rheolaeth termau ac amgylchedd technoleg cyfieithu wedi'u llunio'n unswydd, i'w amgylchedd ei hun, sydd yn fantais amhrisiadwy. • Mae’r Uned yn deall anghenion y sector cyfieithu yng Nghymru, a mae llawer iawn o ymchwil ac o o waith asesu wedi ei gynnal gan yr uned. Llwyddiant yr Uned Technolegau Iaith
  • 6. Manteision y system gyfieithu • Un o brif fanteision system o’r fath yw’r arbedion amser. Mae gwahanol amcangyfrifon wedi'u rhoi ar yr arbedion amser a geir drwy'r defnydd o dechnoleg cyfieithu. • Mewn gwirionedd mae'r arbedion yn dibynnu ar y dechnoleg a ddefnyddir a'r math o ddogfennau a gyfieithir. • Ystyrir bod cyfartaledd arbediad o 40% mewn amser a chost yn rhesymol yn y diwydiant ar brojectau cyfieithu ailadroddus, os defnyddir yr offer a'r adnoddau cyfieithu technegol perthnasol.
  • 7. • Cynyddu’r gallu i gyfieithu o 40%, ac arbed 20% mewn amser gweinyddol, heb unrhyw gynnydd mewn lefelau staffio, drwy ddefnyddio technoleg cyfieithu priodol, megis CyfieithuCymru. Mantais 2
  • 8. Mae Gwell Offer Technoleg Cyfieithu ar gyfer y Diwydiant Cyfieithu yn golygu datblygu a darparu adnoddau megis: • terminoleg gymwys, • geiriaduron, • gwirwyr sillafu a gramadeg, • systemau ac ychwanegion cof cyfieithu, • meddalwedd cyfieithu gyda chymorth cyfrifiadur, • systemau rheoli llif gwaith a'r holl gymhorthion cyfieithu technolegol newydd. Dyma yn union mae CyfieithuCymru yn ei gwmpasu, ac yn ei sicrhau i’r cwsmeriaid. Mae’n arf gwerthfawr, sy’n cynnwys mwy nag un nodwedd unigryw. Mantais 3
  • 9. Mantais 4 • Mae rhannu cofion a gwaith gyda chyd-gyfieithwyr yn un o nodweddion unigryw systemau cof cyfieithu. • Drwy rannu cofion, mae’n arbed gorfod ail gyfeithu ymadroddion sydd eisioes wedi eu cyfieithu gan gyfieithwyr.
  • 10. • Mae’n bosibl i gyfeithwyr weithio o adref neu o bell, gan mai’r cyfan sydd arnynt ei angen yw cysylltiad â’r we. • Dim angen llwytho neu osod unrhyw feddalwedd neu raglen er mwyn gallu ei ddefnyddio. O ganlyniad mae pawb yn gallu defnyddio’r system a hynny ar y we. • Diolch i’r system o’r fath bydd gwaith a thargedau yn parhau i’w cael eu cyrraedd. Mantais 5
  • 11. Mae tri math gwahanol o ddefnyddiwr yn defnyddio’r system hon gyda’i gilydd. Cwsmer Mae CWSMERIAID yn defnyddio’r system i yrru gwaith at y cyfieithwyr i gael ei gyfieithu neu ei olygu ac i dderbyn y gwaith yn ôl wedi’i gwblhau. Gweinyddwr Mae GWEINYDDWYR yn defnyddio’r system i reoli’r llif gwaith. Nhw sy’n derbyn y cais i wneud darn o gyfieithu neu olygu ac yn ei ddosbarthu i wahanol gyfieithwyr. Maent hefyd yn medru cyfieithu darnau byrion eu hunain yn y fan a’r lle a’u dychwelyd yn uniongyrchol at y cwsmer. Cyfieithydd Gwneud un o ddau beth • Tynnu dogfennau’r project dan sylw o’r system er mwyn eu cyfieithu â llaw neu gyda system amgylchedd cyfieithu gwahanol, gan lwytho’r cyfieithiadau gorffenedig yn ôl i’r system i’w dychwelyd at y cwsmer. • Agor dogfennau’r project o fewn y system a defnyddio’r cyfleusterau cof cyfieithu sydd yn y system (Cyfieithyn) gyfieithu’r dogfennau. Unwaith eto, bydd yn defnyddio’r system i ddychwelyd y dogfennau at y cwsmer ar ôl cwblhau’r gwaith cyfieithu. Llwyfan cyffredin i gwsmeriaid, gweinyddwyr a chyfieithwyr
  • 12. Cwsmer yn llwytho’r gwaith i’r system
  • 13. Dewis cyfieithu dogfennau neu ddarnau byr
  • 14. Dewis y math o waith
  • 15. • Mae CyfieithuCymru yn galluogi defnyddwyr i reoli llif gwaith yn effeithiol, gyda ‘r gweinyddwr yn bennaf gyfrifol am ddosbarthu a dyrannu gwaith. • Yn ychwanegol i hyn er mwyn cynorthwyo’r sefydliad i wybod faint o waith cyfieithu sy’n mynd drwy’r system mewn cyfnod penodol, ac o dan pa bennawd a chategori, mae dewislenni yno i fireinio’r adrodd am y gwahanol fathau o gyfieithu. • Mae’n bosibl felly cael ystadegau pendant ar y math o gyfieithu a nifer o gyfieithiadau y mae sefydliad yn ymgymryd â hwy. System rheoli llif gwaith: Gweinyddwr yn dosbarthu gwaith a gweld statws projectau unigol
  • 16. Lliwiau yn dynodi statws y ddogfen Gwyn- Derbyniwyd Melyn-Dangos bod y gweinyddwr wedi derbyn y gwaith Gwyrdd- Gwaith wedi ei gwblhau Llwyd-Caewyd
  • 17. Cyfieithydd yn dewis cofion a geirfa
  • 18. Dogfen yn barod i’w chyfieithu
  • 19. Un nodwedd manteisiol arall i’r cyfieithwyr yw bod fersiwn o Cysill a ddatblygwyd gan yr Uned Technolegau Iaith yn gweithio’n awtomatig o fewn y system cof cyfieithu, sy’n hynod o ddefnyddiol os mai Cymraeg yw’r iaith darged. Mae’n dangos gwallau teipio neu wallau gramadeg yn ystod y broses sydd heb os yn arbed amser prawfddarllen y cyfeithydd ac yn fodd o gynnal safonau y sefydliad. Gwelir fod gwall teipio ‘cwricwlwm’ isod, a bod y gwall yn cael ei amlygu. Gwirio sillafu a gramadeg o fewn y system
  • 20. Creu a gweld Rhagolwg Drwy bwyso’r botwm ‘Gweld’ mae’n bosibl gweld ffurf y ddogfen a hynny yn ei gyfanrwydd.
  • 21. • Mae’n bosibl cael mwy nag un cof yn y system. • Yn ogystal a hyn, mae bosibl dewis os ydych yn dymuno darllen o’r cof neu ysgrifennu’n unig, neu gwneud y ddau. Cofier yn ogystal bod modd i chi ddefnyddio mwy nag un cof, os y bydd cyfieithydd yn teimlo bod mwy nag un cof yn berthnasol i bwnc neu faes y ddogfen sydd angen ei chyfieithu, bydd hyn o fewn rheswm yn help i gael gwell canlyniadau. Amglychedd cyfieithu gyda chofion cyfeithu
  • 22. Enghreifftiau’n unig yw’r rhestr o gofion cyfieithu isod, ac mewn gwirionedd bydd pob corff neu sefydliad yn llunio ei gof cyfieithu ei hun. Cofion cyfieithu Enghraifft o ddau gof
  • 23. • Mae CyfieithuCymru yn cynnig cyfieithiad peiranyddol pur ar waelod y rhestr o gynigion cyfieithu. • Yna os nad oes cynigion yn ymddangos o’r cofion cyfieithu, o leiaf bydd cyfieithiad peirianyddol yn fan cychwyn i’r cyfieithydd wneud gwaith pellach er mwyn cael cyfieithiad boddhaol. • Bydd modd hefyd cael prif eirfa y frawddeg ynghyd a thermau allweddol yn y modd hwn. Cyfieithu Peirianyddol
  • 24. • Nodwedd arall hynod o ddefnyddiol yw’r Gerifaon. • Mae’r geirfaon yn cael eu cynhyrchu gan y sefydliad ei hun. Diben geirfaon yw darparu geirfa fewnol sy’n allweddol i’r sefydliad neu i’r corff, yn enwedig lle bo angen rhannu geiriau allweddol rhwng fwy nag un cyfieithydd. Mae’n fodd o sicrhau cysondeb sy’n angenrheidiol pan bydd mwy nag un cyfieithydd yn gweithio ar un dogfen hir. • Mae hefyd yn ddefnyddiol i arbed gorfod teipio ymadroddion hir sy’n gallu bod yn llafurus e.e. teitlau cyrsiau neu sefydliadau, gan fod modd clicio ar gofnod a’i ollwng yn syth i mewn i’r cyfieithiad. Gellid hefyd gael mwy nag un geirfa at wahanol ddibenion o fewn sefydliad. Geirfaon
  • 25. • Mae CyfieithuCymru yn galluogi chi i ddewis prun ai ydych chi’n dymuno cyfieithu o fewn y system cof cyfieithu (Cyfieithyn), neu ei dynnu allan i’w gyfieithu y tu allan i’r system. • Os nad yw’r cyfieithydd yn mynd i ddefnyddio’r system cof cyfieithu i wneud y gwaith, gall ddewis y gwaith i’w gyfieithu, ac yna glicio ar ‘Lawrlwytho’ i dynnu’r ddogfen/dogfennau allan i’w cyfieithu â llaw. • Mae hyblygrwydd y system felly yn un o’i chryfderau, ac nid ydych yn cael eich caethiwo i gyfieithu o fewn y system fel yn achos rhai systemau cyfieithu.
  • 26. Unwaith y bydd y cyfieithydd yn cychwyn ar y broses gyfieithu ei hun, mae nifer o fotymau y mae modd clicio arnynt i hwyluso gweithredoedd gwahanol: Nesaf: Drwy bwyso ar y botwm yma byddwch yn symud i’r segment nesaf. Nodweddion defnyddiol yn ystod y broses gyfieithu
  • 27. Awtogyfieithu- defnyddir y botwm yma er mwyn i’r system roi cyfieithiad yn y blwch heb i’r cyfieithydd orfod gwneud hyn os yw’r cyfieithiad yn y cof yn cyfateb yn hollol i’r gwreiddiol.
  • 28. Blaenorol- Defnyddir y botwm yma i symud yn ôl at y segment cynt os yw’r cyfieithydd eisiau gweld neu newid rhywbeth yn hwnnw eto.
  • 29. Adfer- Defnyddir y botwm yma i newid rhywbeth yn ôl i’r hyn ydoedd cyn y weithred olaf i gael ei gwneud.
  • 30. Cau- Defnyddir y botwm yma er mwyn cau’r ddogfen a chadw drafft ohono.
  • 31. Copïo’r Gwreiddiol- Defnyddir y botwm yma i gopïo yr hyn oedd yn y gwreiddiol yn y blwch cyfieithiad. Mae’r nodwedd hon yn ddefnyddiol i arbed aildeipio os mai rhestr o enwau pobl neu destun arall nad oes angen ei gyfieithu sydd yn y segment gwreiddiol.
  • 32. Ychwanegu i’r Eirfa- Defnyddir y botwm yma er mwyn rhoi geiriau newydd yn yr Eirfa lle rhoddwyd tic wrth ochr y nodwedd ‘Ysgrifennu’ yn Gosodiadau’r Project.
  • 33. Uno â’r segment nesaf- Defnyddir y botwm yma er mwyn i’r cyfieithydd fedru uno dau segment lle mae’n barnu fod y darn fel yr holltwyd ef yn fyr i wneud uned ystyrlon i’w chyfieithu.
  • 34. Daduno- Defnyddir y botwm yma er mwyn i’r cyfieithydd fedru hollti segment yn ddau lle mae’n barnu fod y segment yn rhy hir neu wedi’i gamrannu.
  • 35. Mae CyfieithuCymru yn galluogi’r cyfieithwyr i yrru’r gwaith yn uniongyrchol at y cwsmer, drwy glicio’r botwm “Anfon at y cwsmer”. Ond os bydd y cyfieithydd yn dymuno gweld y cyfieithiad yn ei gyfanrwydd cyn gyrru’r gwaith yn ôl, mae’n bosibl clicio ar y botwm ‘Creu’ er mwyn gwneud hynny. Bydd hyn yn hynod o ddefnyddiol pan bydd fformatio cymhleth, er mwyn sicrhau bod y fformatio yn adlewyrchu’r fformatio gwreiddiol. Mae’r system yn sicrhau nad yw’n bosibl gyrru’r ffeil anghywir yn ddamweiniol, sy’n gallu bod yn broblemus mewn rhai sefydliadau. Mae’r camau y soniwyd amdanynt yn arbed gwaith i’r Gweinyddwr, gan fod y cyfieithydd ei hun yn gallu gyrru’r gwaith yn uniongyrchol at y cwsmer. Wedi gorffen y cyfieithiad?
  • 36. System bersonol a pherthnasol • Mae’n bosibl cael cyfeiriad gwe personol ar gyfer eich system, sydd yn fantais aruthrol i sefydliadau. • Mae’n bosibl hefyd gwneud y system yn fwy penodol i chi fel sefydliad, drwy roi eich logo ar frig y system, sy’n fodd o brandio’r system.
  • 37. Cefnogaeth technegol a thrwyddedu • Mae’r system yn cael ei thrwyddedu yn ôl nifer cyfieithwyr a gweinyddwyr, a hynny fesul blwyddyn. • Mae hyn yn darparu a chynnwys cefnogaeth technolegol sylfaenol. • Nid oes pris trwyddedu sydd yn cael ei sylfaenu yn ôl niferoedd y cwsmeriaid.
  • 38. Eisiau rhagor o wybodaeth? Cysylltwch ag Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr ar techiaith@bangor.ac.uk.