1. 1
TGAU
Mrs Serena Davies
Ysgol y Preseli
A4. Gwahanol Fathau o Deithio
ENW:
HAMDDEN A
THWRISTIAETH
*** Defnyddiwch y blog i’ch helpu chi:
hamddenpreseli.blogspot.co.uk
2. 2
Pecyn Disgybl Gwahanol Fathau o Deithio
1. Meddyliwch am y gwahanol fathau o deithio sydd yn bodoli, a nodwch hwy yn yn y
bylchau isod.
2. Sut fyddech yn categoreiddio’r mathau yma? Wedi i chi drafod, nodwch deitlau cywir y
categorïau isod, yna ychwanegwch y mathau o deithio o dan y teitlau perthnasol.
Gwahanol
fathau o
deithio
3. 3
Cyrff Cludiant (‘Organisations’)
3. Mae’r diwydiant teithio yn cynnwys amrywiaeth o gyrff a dulliau cludiant. Pa rai yr
ydych yn eu cofio? Ceisiwch nodi rhai ohonynt yn y blwch isod (gyda’r logos):
4. Rydych yn deall bod y diwydiant teithio yn cynnwys amrywiaeth o gyrff cludiant.
Cwblhewch y tabl drwy roi corff (organisation) wedi’i enwi ar gyfer pob math o gludiant:
Bws moethus
Llogi Car
Fferi
Trên
Awyren
4. 4
5. Awgrymwch beth fyddai’r dewis gorau o gludiant ar dir ar gyfer pob grŵp o gwsmeriaid
isod a rhowch reswm cryno dros eich dewis. Gallwch ddefnyddio pob math o gludiant
unwaith yn unig. Cofiwch ddefnyddio’r côd QR er mwyn gwylio’r fidio ar y blog.
Grŵp cwsmeriaid Dull teithio a’r rheswm
Mae Mr a Mrs Jones yn 75 oed ac
am dreulio wythnos neu fwy yn
ymweld â llefydd yn yr Alban.
Dull:
Rheswm:
Myfyrwyr yw Sandra a Joe ac maen
nhw angen mynd i ddau atyniad yn
Llundain.
Dull:
Rheswm:
Mae Mr a Mrs Singh yn ymweld â
Pharis am y tro cyntaf ac am weld
cymaint o’r ddinas â phosibl.
Dull:
Rheswm:
Mae Mrs Davies yn byw yng
Nghaerdydd ac yn gorfod mynd i
gyfarfod ym Mryste ond mae angen
iddi weithio ar y daith.
Dull:
Rheswm:
Mae tri o blant gan y teulu
Matthews ac maen nhw’n mynd i
Gernyw ar eu gwyliau i wersylla.
Dull:
Rheswm:
Mae Mr a Mrs Williams yn aros yn
yr UDA gyda’u merch am fis ac am
gael eu bagiau i gyd i’r maes awyr.
Dull:
Rheswm:
Mae Clare a Lizzie yn aros mewn
dinas ond am fynd i dref glan môr
gyfagos am y dydd.
Dull:
Rheswm:
Car Bws moethus Bws Trên Tacsi System danddaearol
Bws ymweld â golygfeydd
5. 5
Ffactorau i’w hystyried CYN dewis gwahanol fathau o ddulliau teithio
Cyn penderfynu ar y dull cludiant mwyaf addas, rhaid ystyried nifer o ffactorau.
6. Cwlbewch y tabl isod drwy grynhoi pa ffactorau sydd angen eu hystyried, a thrwy nodi
disgrifiad cryno o bob ffactor.
Cofiwch: “MY CAR HAS A YELLOW HAZARD ALARM”!
Ffactor i’w ystyried Disgrifiad
MY
1. Man _________ a
____________ y taith.
CAR
2. ______________ teithio
HAS
3. _________ y daith
A
4. ___________ teithio
YELLOW
5. Y __________ sy’n teithio
HAZARD
6. _________ yr arhosiad
ALARM
7. ___________ o’r
flwyddyn/tywydd
7. CYN-GWESTIWN: “Mae athro/athrawes hamdden a thwristiaeth yn bwriadu mynd â
40 o fyfyrwyr Blwyddyn 11 i gyrchfan Ewropeaidd am ymweliad astudio tri diwrnod.
Amlinellwch y ffactorau y byddai angen i’r athro/athrawes eu hystyried wrth
benderfynu ar y dulliau cludiant mwyaf addas.”
6. 6
Gwerthuso dulliau cludiant: Manteision ac Anfanteision
Rhaid i deithwyr ddewis eu math o gludiant i fynd o’u cartref i’w cyrchfan. Cofiwch,
bydd yn rhaid i lawer ddefnyddio mwy nag un math o gludiant ar gyfer eu taith.
Mae gan bob math o gludiant ei fanteision a’i anfanteision ar sail y ffactorau canlynol:
C C C A A H Ll
Mae pobl sy’n trefnu taith ar gyfer eu hunain, eu teuluoedd neu ar gyfer grwpiau
o bobl yn gorfod gwneud penderfyniadau ar sail y rhestr uchod o ffactorau.
8. Gwyliwch y fidio ar y blog a nodwch y termau cywir ar gyfer y ffactorau gwerthuso yn y
cylchoedd isod:
9. Mae teulu sy’n byw yng Nghaerdydd am ymweld â DisneyLand ym Mharis ar wyliau
byr. Mae ganddyn nhw dri o blant, gydag un ohonynt yn defnyddio cadair olwyn.
Mae’r plant yn 14, 12, ac 11 oed. Mae’n rhaid i’r teulu benderfynu pryd i fynd a’r ffordd
orau o deithio. Gwnewch ychydig o ymchwil ac yna eglurwch y ffactorau y mae
angen iddyn nhw eu hystyried wrth benderfynu ar eu dull o deithio i Baris.
8. 8
Teithio ar y Môr
Gellir rhannu teithio ar y môr yn ddau gategori. Yn gyntaf, defnyddir fferi pan fo
twristiaid am groesi darn o fôr i gyrraedd eu cyrchfan. Yn ail defnyddir, llongau
pleser gan bobl sy’n treulio’i gwyliau cyfan yn teithio ar y môr, gan fwynhau’r
cyfleusterau ar fwrdd y llong a mynd ar wibdeithiau i weld atyniadau pan fo’r llong yn
ymweld â phorthladd.
Fferi
Mae nifer o lwybrau fferi yn
gweithredu o gwmpas
arfordir Ynysoedd Prydain.
Mae llawer o’r rhain yn
cludo cerbydau sy’n golygu y
gall y teithwyr fynd â’u ceir
a cherbydau eraill ar y fferi
gyda nhw. Mae’r llwybrau
pwysicaf yn gweithredu
rhwng porthladdoedd ar
arfordir de Lloegr a Ffrainc,
a’r daith rhwng Dover a
Calais yw’r daith fyrraf a’r fwyaf poblogaidd.
Er mai’r llwybr fferi bwysicaf ar gyfer twristiaid y Deyrnas Unedig yw’r un ar draws y
Sianel i Ewrop, mae fferis yn gweithredu hefyd:
Lerpwl a phorthladdoedd yng
Nghymru i Weriniaeth Iwerddon
I Ynys Wyth (Isle of Wight) ac
Ynysoedd y Sianel ac yn ôl
Rhwng y tir mawr ac ynysoedd yr
Alban
Defnyddir fferis mewn llawer o gyrchfannau i gludo twristiaid.
9. 9
Cwmnïau fferi poblogaidd
11. Mae yna nifer o gwmnïau fferi poblogaidd. Gan ddefnyddio’r côd QR fel
cymorth, nodwch enwau rhai o’r cwmnïau yma isod (gyda’r logos!)
12. a) Labelwch y llwybrau fferi poblogaidd isod yn glir o gwmpas y map (A-D)
b) Defnyddiwch y côd QR (ger y map) i gwblhau’r tabl isod, gan gofio cyfrifo cost ar
gyfer TEULU O 4 GYDA CHAR (taith ddwyffordd – ‘return’)
Llwybr Nifer o
deithiau/ dydd
Cwmnioedd Hyd y daith Cost
A: Dover i Calais
B: Abergwaun i Rosslare
C: Caergybi (Holyhead)
i Ddulyn (Dublin)
CH: Lerpwl i Belfast
D: Portsmouth i St Malo
10. 10
Llongau pleser
Mae mwy a mwy o dwristiaid o’r Deyrnas Unedig yn dewis mynd ar wyliau mordaith. Tra
bo’r niferoedd sy’n mynd ar wyliau pecyn yn gyffredinol wedi parhau’n sefydlog, mae’r
gyfran sy’n mynd ar fordaith yn tyfu.
Ardal Môr y Canoldir yw’r gyrchfan fwyaf poblogaidd gyda llawer o bobl yn manteisio ar
y cyfle i hedfan o’r Deyrnas Unedig i gwrdd â’u llong mewn porthladd. Hedfan-hwylio
yw’r enw am hyn.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae mordeithio wedi dod yn ffasiynol, gyda mwy o bobl yn
gallu fforddio’r math hwn o wyliau. Disgwylir i’r galw am fordeithiau barhau i dyfu yn y
dyfodol agos.
Un o atyniadau gwyliau mordaith yw bod twristiaid yn gallu ymweld â nifer o
gyrchfannau yn ystod un gwyliau, tra ar yr un pryd yn mwynhau nifer o gyfleusterau a
chysur llong bleser fodern.
11. 11
Hedfan
Hedfan yw’r dull mwyaf poblogaidd o deithio i dwristiaid o’r Deyrnas Unedig sy’n mynd
ar ymweliadau tramor ac mae pwysigrwydd teithiau awyr yn parhau i dyfu.
Er mwyn deall teithiau awyr yn y Deyrnas Unedig mae angen deall y berthynas rhwng
meysydd awyr a chwmnïau hedfan. Mae’r naill a’r llall yn fusnesau masnachol sy’n
ceisio gwneud elw.
Mae meysydd awyr yn gwneud elw trwy godi
tâl ar sefydliadau megis tai bwyta am
safleoedd mewn lolfeydd ymadael.
Mae cwmnïau hedfan yn gwneud elw trwy
gludo teithwyr, tra bod meysydd awyr yn
gwneud elw trwy godi tâl ar gwmnïau
hedfan i lanio ar y rhedfeydd a defnyddio
cyfleusterau’r maes awyr. Taliadau glanio
yw’r enw ar y rhain.
Maes awyr Heathrow Llundain yw un o
feysydd awyr prysuraf y byd ac mae’n delio â bron i 70 miliwn o deithwyr bob
blwyddyn.
Yn Heathrow mae’r prif gwmnïau hedfan yn
gwmnïau ‘gwasanaeth llawn’ sefydledig
megis British Airways, BMI a Virgin
Atlantic. Ym meysydd awyr eraill y DU mae’r
defnyddwyr yn cynnwys cwmnïau hedfan
rhad megis Ryanair ac easyJet.
Mae’r gwahaniaethau rhwng cwmnïau hedfan
‘gwasanaeth llawn’ a ‘rhad’ yn mynd yn llai
eglur wrth i natur y diwydiant hedfan newid.
Yn draddodiadol, roedd y prif gwmnïau
hedfan megis British Airways ac Air France
yn cael eu hadnabod fel ‘cwmnïau
cenedlaethol’ a oedd yn aml yn eiddo i’r
cyhoedd. Erbyn heddiw mae’r cwmnïau awyr
hyn yn eiddo i sefydliadau’r sector preifat.
12. 12
Mae’r holl brif gwmnïau hedfan megis British Airways a Ryanair yn gweithredu
gwasanaeth rheolaidd.
Mae hyn yn golygu bod yna amserlen bendant y mae’r cwmni hedfan yn ei dilyn am
gyfnod. Mae awyrennau’n hedfan ar deithiau rheolaidd does wahaniaeth faint o
deithwyr sydd arnynt.
Un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol ym maes hedfan yn ystod yr ugain mlynedd
diwethaf yw’r cwmnïau hedfan cost isel neu rad. O’r rhain y gweithredwyr mwyaf yw
Ryanair ac easyJet. Mae twf Ryanair ac easyJet dros y degawd diwethaf wedi bod yn
rhyfeddol.
Mae’r cwmnïau hedfan rhad wedi bod mor llwyddiannus fel eu bod wedi gorfodi
cwmnïau hedfan gwasanaeth llawn sefydledig i newid eu harferion gweithredu er
mwyn cystadlu. Ar lwybrau taith fer boblogaidd i gyrchfannau megis Paris a
Barcelona, gall y prisiau y mae’r cwmnïau hedfan traddodiadol yn eu codi fod yn debyg
i’r cwmnïau rhad. Nid yw cwmnïau hedfan rhad yn hedfan ar deithiau hir i’r UDA a
chyrchfannau eraill y tu hwnt i Ewrop.
Mae cwmnïau rhad wedi cael effaith ar waith sefydliadau teithio a thwristiaeth eraill
hefyd. Mae mwy o deithwyr bellach yn gallu ac yn barod i archebu eu taith hedfan yn
uniongyrchol gyda’r cwmni yn hytrach na defnyddio asiantau teithio. Hefyd, mae
cwmnïau hedfan wedi bod yn gyfrifol am hunanbecynnu lle mae’r teithwyr yn
archebu eu teithiau hedfan, llety a chludiant arall eu hunain, yn hytrach na phrynu
gwyliau pecyn traddodiadol. Hefyd, mae nifer y teithwyr sy’n croesi’r sianel ar fferi wedi
dirywio am fod mwy o deithiau hedfan ar gael i gyrchfannau yn Ewrop.
12. Mae yna nifer o gwmnïau hedfan poblogaidd. Gan ddefnyddio’r rhyngrwyd fel
cymorth, nodwch enwau rhai o’r cwmnïau yma yn y colofnau cywir isod.
Cwmnïau Hedfan Gwasanaeth Llawn Cwmnïau Hedfan Rhad
13. 13
13. Llenwch y geiriau sydd ar goll yn y darn isod.
Mae meysydd awyr a chwmnïau hedfan yn sefydliadau sy’n ceisio gwneud elw.
Mae cwmnïau hedfan yn gwneud elw trwy gludo teithwyr, tra bod meysydd awyr yn
gwneud elw trwy godi tâl ar gwmnïau hedfan i lanio ar redfeydd. Gelwir y rhain yn .
Yn Heathrow mae’r prif gwmnïau hedfan yn gwmnïau
sefydledig megis British Airways. Ym meysydd awyr eraill y DU mae’r defnyddwyr yn
cynnwys cwmnïau hedfan megis Ryanair ac easyJet.
Yn draddodiadol roedd prif gwmnïau hedfan megis British Airways ac Air France yn cael
eu galw yn a oedd yn aml yn eiddo i’r cyhoedd. Erbyn heddiw mae’r cwmnïau hedfan hyn
yn eiddo i sefydliadau’r sector preifat.
Mae’r holl gwmnïau hedfan megis British Airways a Ryanair yn gweithredu gwasanaethau
rheolaidd.
Ar lwybrau boblogaidd i gyrchfannau megis Paris a Barcelona, gall y prisiau y mae’r
cwmnïau hedfan traddodiadol yn eu codi fod yn debyg i’r cwmnïau rhad.
Nid yw cwmnïau hedfan rhad yn hedfan ari’r UDA a chyrchfannau eraill y tu hwnt i Ewrop.
Mae cwmnïau rhad wedi cael effaith ar waith sefydliadau teithio a thwristiaeth eraill hefyd.
Mae mwy o deithwyr bellach yn gallu ac yn barod i archebu eu taith hedfan yn uniongyrchol
gyda’r cwmni yn hytrach na defnyddio asiantau teithio. Hefyd, mae cwmnïau hedfan wedi
bod yn gyfrifol amlle mae’r teithwyr yn archebu eu teithiau hedfan, llety a chludiant arall
eu hunain, yn hytrach na phrynu gwyliau pecyn traddodiadol.
14. 14
14. Ar fap gwag o’r Deyrnas Unedig dangoswch ble mae’r prif feysydd awyr canlynol:
Heathrow Llundain
Gatwick Llundain
Stansted Llundain
Birmingham
Manceinion
Caerdydd
Newcastle
Bryste
Glasgow
Belfast Rhyngwladol
Dwyrain Canolbarth Lloegr