2. Beth yw tlodi incwm cymharol?
• Mae bod mewn tlodi incwm cymharol yn golygu byw mewn cartref lle mae
cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60 y cant o incwm aelwyd
gyfartalog y DU (fel y rhoddir gan y canolrif).
• Mae tlodi incwm cymharol yn fesur o anghydraddoldeb incwm, nid yw'n fesur
uniongyrchol o safonau byw. Os oedd gan bob cartref lefelau incwm tebyg iawn,
byddai'r ganran o bobl mewn tlodi incwm cymharol yn isel iawn, efallai yn sero.
• Mae'n werth cofio hefyd . . .
– Cymharir incwm aelwydydd yng Nghymru yn erbyn incwm cyfartalog
aelwydydd y DU, nid incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru.
– Dydy'r data ddim yn cael ei addasu ar gyfer gwahanol gostau byw mewn
gwahanol ardaloedd yn y DU, ar wahân i dynnu i ffwrdd costau tai.
– Gall y data ar gyfer gwledydd a rhanbarthau fod yn gyfnewidiol oherwydd
meintiau sampl bach ac felly dylid cymryd gofal wrth ddehongli ffigurau.
3. Yr oedd bron i chwarter yr holl bobl yng Nghymru yn
byw mewn tlodi incwm cymharol ar ôl talu eu costau
tai
• Ar y cyfan, ar ôl talu costau tai megis taliadau llog ar forgeisi /rhent, ardrethi
dŵr ac yswiriant adeiladau, roedd 23 y cant o'r holl bobl yng Nghymru yn
byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2016-17 a 2018-19 (cyfartaledd
dros dair blwyddyn ariannol).
• Mae'r ffigur diweddaraf ychydig yn is na’r 24 y cant a adroddwyd yn ystod y
2 cyfnod blaenorol. Fodd bynnag, ni fu llawer o newid i lefel tlodi incwm
cymharol ers y cyfnod amser yn diweddu 2003-04.
• Bu’r canran hefyd yn gyson ar gyfer holl wledydd eraill y DU yn y
blynyddoedd diwethaf; fodd bynnag bu eu cyfraddau hwy yn is na rhai
Cymru. Y ffigur diweddaraf ar gyfer Lloegr yw 22 y cant. Y ffigur ar gyfer yr
Alban a Gogledd Iwerddon yw 19 y cant.
4. Canran y bobl mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai) ar gyfer
gwledydd y DU, cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol
Nodyn: Nid oes data ar gael ar gyfer Gogledd Iwerddon cyn y cyfnod 2002 i 2005.
Nodyn: Mae'r blynyddoedd a gynrychiolir yn flynyddoedd ariannol - e.e. Y cyfnod diweddaraf yw’r
blwyddyn ariannol 2016-17 i flwyddyn ariannol 2018-19
Ffynhonnell: Aelwydydd Dan Incwm Cyfartalog (HBAI), Arolwg Adnoddau Teuluoedd, DWP
%
0
5
10
15
20
25
30
1996 i
1999
1998 i
2001
2000 i
2003
2002 i
2005
2004 i
2007
2006 i
2009
2008 i
2011
2010 i
2013
2012 i
2015
2014 i
2017
2016 i
2019
Cymru
Yr Alban
Lloegr
Gogledd Iwerddon
6. Canran o bob grŵp oedran yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi
incwm cymharol (ar ôl costau tai), cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol
Source: HBAI, Family Resources Survey, DWP
%
Nodyn: Mae'r blynyddoedd a gynrychiolir yn flynyddoedd ariannol - e.e. Y cyfnod diweddaraf yw
blwyddyn ariannol 2016-17 i flwyddyn ariannol 2018-19
Ffynhonnell: Aelwydydd Dan Incwm Cyfartalog (HBAI), Arolwg Adnoddau Teuluoedd, DWP
0
5
10
15
20
25
30
35
40
1996 i
1999
1998 i
2001
2000 i
2003
2002 i
2005
2004 i
2007
2006 i
2009
2008 i
2011
2010 i
2013
2012 i
2015
2014 i
2017
2016 i
2019
Pob unigolyn
Plant
Oedolion oedran gweithio
Pensiynwyr
7. Plant yw'r grŵp oedran mwyaf tebygol o fod mewn
tlodi incwm cymharol
• Dengys y ffigurau diweddaraf fod 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw
mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2016-17 a 2018-19 (ar ôl i gostau tai
gael eu talu).
• Mae hyn yn ostyngiad o'r 29 y cant a adroddwyd y llynedd a dyma’r
pedwerydd tro i’r ffigur hwn fod yn is na 30 y cant ers y cyfnod yn gorffen
2005-06.
• Rheswm posibl ar gyfer plant fod yn y grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o fod
mewn tlodi incwm cymharol yn gyson yw bod oedolion â phlant yn fwy
tebygol o fod allan o waith neu mewn gwaith â thâl isel oherwydd
cyfrifoldebau gofal plant.
• Mae'r ffigurau ar gyfer Lloegr a'r Alban wedi aros yr un fath â'r llynedd, sef
31 y cant a 24 y cant yn y drefn honno. Mae'r ffigur ar gyfer Gogledd
Iwerddon wedi cynyddu 1 pwynt canran, i 25 y cant eleni.
8. Tlodi incwm cymharol ar gyfer oedolion o oedran
gweithio yn aros yn gyson yng Nghymru ond dal yn uwch
na hynny a welwyd ar draws gwledydd eraill y DU
• Bu'r ffigurau ar gyfer oedolion o oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol yn
eithaf cyson yn y blynyddoedd diwethaf ar gyfer holl wledydd y DU.
• Fodd bynnag, mae Cymru yn tueddu i fod â chyfartaledd uwch o oedolion o
oedran gweithio yn byw mewn tlodi incwm cymharol na gwledydd eraill y DU.
• Rhwng 2016-17 a 2018-19, roedd 22 y cant o oedolion oedran gweithio yng
Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai). Mae hwn yn
ostyngiad o'r 23 y cant a adroddwyd y llynedd.
• Mae’r ffigur ar gyfer Lloegr (21 y cant) heb newid o hynny a adroddwyd y
llynedd. Yn yr Alban, mae'r ffigur wedi gostwng yn ôl i 19 y cant eleni, ar ôl
gweld cynnydd bach (20 y cant) y llynedd.
• Yng Ngogledd Iwerddon mae'r ffigur wedi cynyddu o'r 17 y cant a adroddwyd y
llynedd i 18 y cant eleni. Roedd y ffigur yng Ngogledd Iwerddon wedi gostwng
am y tri chyfnod yn olynol cyn hyn.
9. Bu’r cyfartaledd o bensiynwyr yng Nghymru sy’n byw
mewn tlodi incwm cymharol yn cynyddu ond y mae’n
parhau dan yr hyn yr oedd yn y cyfnod rhwng canol a
diwedd yr 1990au
• Wedi talu costau tai, yr oedd 19 y cant o bensiynwyr yng Nghymru yn byw
mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2016-17 a 2018-19. Mae hyn yn parhau i
fod yn uwch na’r ffigurau a welwyd yn y cyfnod hyd at 2005-06 hyd at y
cyfnod hyd at 2015-16 ond yn is na’r rhai a welwyd yn y canol i ddiwedd y
1990au.
• Rhwng 2016-17 a 2018-19, y ffigur cyfatebol ar gyfer Lloegr oedd 16 y cant,
yr Alban 15 y cant a Gogledd Iwerddon 13 y cant. Mae’r ffigurau yng
Nghymru wedi bod ychydig yn uwch na hynny a welwyd mewn gwledydd
eraill y DU ers y cyfnod hyd at 2014-15.