2. Cefndir
• Partneriaeth o fudiadau o’r sector cyhoeddus a’r
trydydd sector yw Cyfranogaeth Cymru sy’n cael
ei chynnal gan WCVA.
• Mae’r Panel Cynghori yn dod â mudiadau sy’n
darparu ac sy’n cynrychioli mudiadau
gwasanaethau cyhoeddus o’r sectorau
cyhoeddus a gwirfoddol ynghyd.
3.
4. Arolwg Cymru gyfan ar ddefnydd y
rhyngrwyd a chyfryngau
cymdeithasol gan wasanaethau
cyhoeddus
• Gofynnwyd i ymatebwyr yr arolwg os oedd gan eu sefydliadau
ffrydiau cyfryngau cynmdeithasol Cymraeg neu ddwyieithog. O'r 257
a ymatebodd, dywedodd traean (33%) eu bod, tra bod 28% yn
ansicr a doedd dim gan 39%.
• Dywedodd rhai mai’r rhwystr mwyaf cyffredin oedd nad oedd gan
mudiadau digon staff sy'n siarad Cymraeg i redeg gwasanaeth
effeithiol.
• Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo ei bod yn anodd i gael pobl i
gyfranogi yn y Gymraeg.
5. Arolwg Cymru gyfan ar ddefnydd y
rhyngrwyd a chyfryngau
cymdeithasol gan wasanaethau
cyhoeddus
Argymhellion
• Dylai gwaith cyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn
rhywbeth sy’n cael ei brif-ffrydu ac nid yn 'ychwanegiad'.
• Bod y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn cwrdd ag egwyddor 5
o’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng
Nghymru
7. Nodiadau cyfarwyddyd
egwyddor 5
• I sicrhau bod yr wybodaeth ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg, yn
ogystal â mewn ieithoedd ethnig lleiafrifol eraill.
• Gwneud defnydd o wybodaeth ‘hawdd i’w darllen’ sydd ar gael
mewn ffurfiau amrywiol e.e. print mawr, sain, DVD.
• I sicrhau bod yr wybodaeth yn sensitif yn ddiwylliannol ac yn
grefyddol.
• Mae hefyd yn bwysig peidio â rhoi gormod o faich ar bobl o ran
gwybodaeth amherthnasol.
• www.participationcymru.org.uk/principles
8. Gwerthusiad
• Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r
Cyhoedd yng Nghymru yn ddefnyddiol ar gyfer bob math
o ymgysylltu / cyfranogi
• Jyst achos mae cyfryngau cymdeithasol yn ffordd hawdd
a chyflym i ymgysylltu, peidiwch ag anghofio i
ymgysylltu’n effeithiol
• www.participationcymru.org.uk/principles/evaluation-
toolkit
9. Diolch
Cyfranogaeth Cymru / Participation Cymru
participationcymru@wcva.org.uk 029 2043 1757
www.participationcymru.org.uk @PartCymru
10. Diolch
Cyfranogaeth Cymru / Participation Cymru
participationcymru@wcva.org.uk 029 2043 1757
www.participationcymru.org.uk @PartCymru
Hinweis der Redaktion
Partneriaeth o fudiadau o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yw Cyfranogaeth Cymru sy’n cael ei chynnal gan WCVA. Rydym yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn y sectorau cyhoeddus, trydydd a phreifat er mwyn cael ymgysylltiad cyhoeddus gwell wrth ddylunio, datblygu a darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd ar gyfer pobl Cymru. Mae gwaith Cyfranogaeth Cymru yn cael ei llywio gan Banel Cynghori Cyfranogaeth Cymru. Mae’r Panel Cynghori yn dod â mudiadau sy’n darparu ac sy’n cynrychioli mudiadau gwasanaethau cyhoeddus o’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol ynghyd. Mae'r panel yn arolygu sut mae Cynllun Busnes Cyfranogaeth yn cael ei roi ar waith; sut gallant gweithio’n strategol er mwyn adeiladu sgiliau a gallu rheolwyr a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru; ac i gael ymgysylltiad cyhoeddus gwell wrth ddylunio, datblygu a darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd ar gyfer pobl Cymru.
Rwyn flin os mae’r gwybodaeth yn y rhan yma ychydig yn sylfaenol, ond mae’n hanfodol ar gyfer disgrifio pam gall ymgynghori trwy gyfryngau cymdeithasol bod yn effeithiol. Wrth i’r we esblygu o fersiwn 1.0, ble roedd gwybodaeth yn cael ei darlledu i bobl, i fersiwn 2.0, ble mae pobl wedi cael y cyfle i greu eu cynnwys eu hunain ac hefyd i ymateb i gynnwys sy’n cael ei phostio, mae cyfleoedd wedi codi i ddefnyddwyr i gael dweud eu dweud. Mae hyn hefyd wedi creu cyfleuon i fudiadau gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgynghori, gan bod y dulliau ar gael i unrhyw un yn rhad ac am ddim; mae nhw’n hyblyg a gellir eu defnyddio mewn sefyllfaoedd amrywiol; mae’n gyflym i setion nhw i fyny ac i diweddaru nhw; a does dim angen bod yn arbenigwr mewn technoleg gwybodaeth – does dim “we-meistr” rhagor.
Mae asiantaethau amrywiol yn rhan o’r Gweithgor Ymgysylltu â’r Cyhoedd, gan gynnwys Cyfranogaeth Cymru, Llywodraeth Cymru, yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd, Conffederasiwn y GIG, Swyddfa Archwilio Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Comms Cymru ac Ysgol Busnes Caerdydd. Sefydlwyd y grŵp i gydlynu gwybodaeth a dulliau ynglŷn â chynnig, cynnal a datblygu gwasanaethau cyhoeddus gwell i ddinasyddion ledled Cymru. Yn ôl astudiaethau diweddar a thystiolaeth anffurfiol, rydyn ni’n gwybod bod ymgysylltu digidol a gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol yn amrywio ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Ni’n gwybod hefyd bod cyfryngau cymdeithasol yn cael eu hystyried yn ffordd hygyrch a rhad o weithio. Cafodd Arolwg Cymru gyfan ar ddefnydd y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol gan wasanaethau cyhoeddus ei gynnal er mwyn cael darlun ehangach o’r anawsterau sy’n effeithio ar fudiadau ac unigolion, yn ogystal â’r meysydd eraill y dylen ni ffocysu arno i ateb yr heriau yma. Bydd canlyniadau’r adroddiad yn helpu ni i fynd i’r afael â hyn trwy feithrin sgiliau, llunio canllawiau a chyfeiriad gwladol ac, yn bwysicach fyth, helpu cysylltu mudiadau sydd â rhywbeth i rannu gyda’r rhai sydd â rhywbeth i ddysgu. Gofynnodd y gweithgor i Socitm Cymru, Cymunedau 2.0, Sylw ar Gwsmeriaid Cymru ac Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru i gynnal arolwg ar y cyd ynglŷn â’r we a chyfryngau cymdeithasol. Y Cyng. Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Dechnoleg Gwybodaeth a Chynhwysiant Digidol, oedd yr hyrwyddwyr. O'r rhai a nododd natur eu ffrydiau Cymraeg neu ddwyieithog, roedd gan rhai mudiadau ffrydiau ar wahân ar gyfer y 2 iaith tra bod eraill yn defnyddio ffrwd ddwyieithog unigol. Dywedodd y rhan fwyaf o bobl gyda ffrydiau dwyieithog y byddan nhw’n anfon diweddariad Gymraeg gyntaf, wedyn ddiweddariad Saesneg. Roedd ymatebwyr yn gweld mai un o'r rhwystrau mwyaf cyffredin oedd nad oedd digon o staff yn siarad Cymraeg i gynnal gwasanaeth effeithiol, gyda chyflymder yr ymateb yn bryder arbennig wrth ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol lle mae ymateb cyflym yn allweddol. Teimlodd rhai ymatebwyr y byddai angen recriwtio staff ychwanegol i ddelio â chyfryngau cymdeithasol Cymraeg, gan nad oedd ganddynt y gallu i gynnal gwasanaeth Cymraeg effeithiol ar hyn o bryd. Dywedodd nifer o ymatebwyr y byddan nhw’n hoffi cael mynediad i adnodd rhad ac am ddim ar gyfer symiau bach o gyfieithu mwyn cyflymu eu defnydd o gyfryngau cymdeithasol Cymraeg. Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo bod e’n anodd cael pobl i gyfranogi rhan yn y Gymraeg, ac roedd e’n anodd gwneud achos busnes ar gyfer buddsoddiad ychwanegol pan mae'r defnydd yn isel. Fodd bynnag, dywedodd rhai ymatebwyr eu bod nhw’n teimlo bod y rheswm bod llai o siaradwyr Cymraeg wedi ymgysylltu trwy ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol oedd bod y cynnwys Cymraeg eu cyfieithu yn uniongyrchol o fersiynau Saesneg, yn hytrach nag mewn ffordd y byddan nhw’n siarad.
Rydym yng nghanol ysgrifennu’r adroddiad ar y foment, ble bydd yna gwybodaeth dyfnach ar gael. Rhaid i ni ail edrych ar yr adran Gymraeg. Defnyddir hyn fel templed ar gyfer gweddill yr adroddiad. Yn anffodus mae penderfyniad y Gweinidog dros y Gymraeg am y Safonau ar gyfer y Gymraeg wedi effeithio ar ein canfyddiadau.
Fe gafodd yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2011. Mae’r egwyddorion yma yn anterth o ddarn o waith a gafodd ei ddatblygu o dan arweiniad Panel Cynghori Cyfranogaeth Cymru a thrwy ymgynghori gyda pobl ledled Cymru. Mae'r rhain yn egwyddorion trosfwaol sydd wedi’u hanelu ato fudiadau Gwasanaethau Cyhoeddus ym mhob sector yng Nghymru yn gyffredinol. Maen nhw’n anelu i gynnig dull gweithredu cyson a safon dda ar gyfer ymgysylltiad cyhoeddus ar draws Cymru. Rhaid i’r egwyddorion yma cael ei rhoi ar waith er mwyn iddynt gael yr effaith positif ar bobl a bwriedir iddynt. 5. Ni fydd unrhyw jargon yn rhan o’r wybodaeth a ddarperir a bydd yn briodol ac yn hawdd i’w deall Mae pobl mewn sefyllfa dda i gymryd rhan yn y broses ymgysylltu oherwydd mae gwybodaeth berthnasol sydd wedi’i haddasu i ddiwallu eu hanghenion ar gael iddynt yn hwylus.
Mai’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru yn ddefnyddiol ar gyfer bob math o ymgysylltu / cyfranogi. Jyst achos mae cyfryngau cymdeithasol yn ffordd hawdd a chyflym i ymgysylltu, peidiwch ag anghofio i ymgysylltu’n effeithiol. Gallwch ddefnyddio Pecyn Cymorth Gwerthuso Cyfranogaeth Cymru i werthuso’ch gwaith ymgysylltu. Mae’r pecyn yn defnyddio’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu a’r Cyhoedd fel fframwaith i sicrhau bod ymgysylltu yn cael ei wneud yn effeithiol.